Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Environment and Sustainability Committee

 

 

 

24 Gorffennaf 2012

Annwyl Gydweithiwr

 

Y Polisi Amaethyddol Cyffredin

 

Fel y gwyddoch, cyhoeddodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Amaethyddol Cyffredin y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd (y Grŵp Gorchwyl a Gorffen) ei farn a’i awgrymiadau cychwynnol ar gyfer gwelliannau i gynigion y Comisiwn Ewropeaidd (y Comisiwn) i ddiwygio’r PAC ym mis Ionawr 2012.

Ers mis Ionawr, mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi parhau i fonitro datblygiadau o fewn y broses negodi ac mae wedi cyfarfod ag Aelodau o Senedd Ewrop (ASE), swyddogion y Comisiwn a chynrychiolwyr o Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau eraill i nodi barn rhanddeiliaid yng Nghymru ar y diwygiadau arfaethedig.  Mae’r Grŵp yn dymuno sicrhau bod y lefel hon o ymgysylltiad yn parhau drwy gydol y broses negodi er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i Gymru.  Yn arbennig, mae’r Grŵp yn awyddus i sicrhau ei fod yn cynnal deialog â chydweithwyr yn Senedd Ewrop, a fydd â’r un faint o lais ag Aelod-wladwriaethau ar gynnwys terfynol y cynigion.

Ym mis Mai 2012 cyhoeddodd y Rapporteurs perthnasol o Bwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop adroddiadau drafft ar gynigion y Comisiwn ar gyfer:

-        Rheoliad newydd ar daliadau uniongyrchol;

-        Rheoliad newydd ar y gronfa datblygu gwledig;

-        Rheoliad newydd ar y Farchnad Gyffredin ar gyfer amaethyddiaeth; a

-        Rheoliad llorweddol newydd sy’n nodi dulliau rheoli ar gyfer y tri rheoliad arall.

Mae’r Adroddiadau drafft yn cynnig gwelliannau sylweddol i reoliadau drafft gwreiddiol y Comisiwn. Bydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth yn mynd drwy broses o gytuno ar yr adroddiad hwn cyn iddo fabwysiadu’i safbwynt derfynol. Mae’r Pwyllgor Amaethyddiaeth wedi nodi na fydd yn pleidleisio ar ei safbwynt derfynol o ran y rheoliadau hyn nes bod penderfyniad wedi’i wneud ar Gyllideb yr UE, ac felly y swm a ddyrennir i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.  Hoffai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen glywed eich barn am rai o’r gwelliannau allweddol a gynigir yn yr Adroddiadau Drafft fel y gall godi unrhyw faterion perthnasol gyda’r Aelodau o Senedd Ewrop cyn iddynt fabwysiadu eu sefyllfa derfynol.

I’r perwyl hwnnw, rydym wedi darparu crynodeb isod o’r hyn y credwn yw rhai o’r gwelliannau allweddol o’r Adroddiadau Drafft a allai effeithio ar Gymru, ac ymateb cychwynnol y Grŵp iddynt.  Byddem yn croesawu unrhyw atborth gennych chi/eich aelodau ar y crynodeb hwn.  Rydym wedi nodi rhai cwestiynau cyffredinol i chi eu hystyried, ond nid oes angen i chi ateb bob un o’r rhain yn uniongyrchol os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.  Byddem hefyd yn croesawu sylwadau ar unrhyw rai o’r gwelliannau eraill a wnaed yn yr Adroddiad drafft.

Gallwch anfon eich barn atom yn ysgrifenedig neu drwy e-bost at PwyllgorAC@cymru.gov.uk

Ar ôl i ni gasglu barn pawb byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r pwyntiau allweddol a godwyd ar ein gwefan.

Os hoffech ddarllen y fersiwn gyflawn o’r Adroddiadau Drafft gallwch gael mynediad atynt o wefan Senedd Ewrop yma. Yn ogystal, gallwch olrhain cynnydd y cynigion drwy broses gwneud penderfyniadau’r UE ar wefan Arsyllfa Ddeddfwriaethol Senedd Ewrop yma.

Yn gywir

 

 

Vaughan Gething AC

Chadeirydd - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin

 


Adroddiad drafft ar reoliad sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol

Cyhoeddwyd yr Adroddiad Drafft ar y rheoliad taliadau uniongyrchol ar 30 Mai 2012 gan Mr Luis Manuel Capoulas Santos, y rapporteur penodedig. Mae’r Adroddiad Drafft yn cynnig 107 o welliannau i gynnig gwreiddiol y Comisiwn. Mae rhai o’r gwelliannau hyn yn cefnogi’r rheini a gynigiwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ei ymateb cychwynnol a chredwn y gallai’r rhain sicrhau canlyniadau gwell i Gymru.  Mae rhai gwelliannau, fodd bynnag, yn cynnig newidiadau nad oedd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn eu cefnogi neu nad oedd y Grŵp wedi eu hystyried yn ei adolygiad cyntaf ond bod goblygiadau posibl iddynt ar gyfer Cymru.

Dosbarthu taliadau uniongyrchol

Yn ei gasgliadau cychwynnol ar y rheoliad taliadau uniongyrchol drafft a gyhoeddwyd gan y Comisiwn, mynegodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen bryder am y cynnig i’w gwneud yn ofynnol i bob Aelod-wladwriaeth dalu 40 y cant o’i thaliadau uniongyrchol ar sail ardal yn 2014 ac i symud tuag at ddull sy’n gwbl seiliedig ar ardaloedd ar gyfer taliadau uniongyrchol erbyn 2019. Credai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen y gallai hyn arwain at ailddosbarthu taliadau sylweddol yng Nghymru ac y dylid diwygio’r rheoliad drafft i gynnwys cyfnod pontio mwy graddol. 

Yn ei adroddiad drafft (Gwelliant 53) mae Mr Capoulas Santos yn awgrymu y dylai fod yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau ailddosbarthu dim ond 20 y cant o daliadau ar sail ardal yn 2014 ac yn 2019 (Gwelliant 55) byddai gan Aelod-wladwriaethau ryddid i ganiatáu hyd at 20 y cant o wahaniaeth i daliadau uned cyfartalog o fewn eu tiriogaeth. Tra bod y gwelliannau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i Aelod-wladwriaethau nid ydynt yn mynd mor bell â’r newidiadau a awgrymwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Felly, mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn tueddu i barhau i alw am fwy o hyblygrwydd i Aelod-wladwriaethau.

Mae Gwelliant 56 o’r Adroddiad Drafft yn awgrymu y gallai Aelod-wladwriaethau, wrth symud tuag at system o daliadau uniongyrchol sy’n seiliedig ar ardal, gymryd camau i sicrhau nad yw hawliadau unrhyw fferm yn cael eu lleihau mwy na 30 y cant yn 2019, o’i gymharu â 2014,. O ystyried bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn pryderu am yr ansefydlogrwydd posibl yn sgîl ailddosbarthu taliadau ar raddfa fawr yng Nghymru rydym yn tueddu i gefnogi’r gwelliant hwn.

-               A fyddech yn cefnogi’r gwelliannau fel y nodwyd yn yr adroddiad drafft neu a hoffech weld rhagor o newidiadau’n cael eu cyflwyno?

Hawlio

Clywodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen amrywiaeth o bryderon gan randdeiliaid am y cynnig i ddyrannu hawliau ym mis Mai 2014 i ffermwyr a ddefnyddiodd o leiaf un hawl yn 2011. Mae Gwelliannau 50 a 51 o’r Adroddiad Drafft yn awgrymu y dylid ehangu hwn i gynnwys ffermwyr a ddefnyddiodd hawliad rhwng 2009 a 2011 i osgoi eithrio ffermwyr a allai, oherwydd amgylchiadau arbennig, fod wedi methu â hawlio yn 2011.

Roedd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen un pryder arbennig am gyfnod cyfeirio 2011 sef y gallai atal newydd-ddyfodiaid rhag ymuno â’r diwydiant. Mae Gwelliant 59  o’r Adroddiad Drafft yn nodi y dylid caniatáu i Aelod-wladwriaethau ddefnyddio’r gronfa genedlaethol a gynigiwyd o dan Erthygl 23 i ddyrannu hawliau i ffermwyr a ddechreuodd ar eu gweithgarwch amaethyddol ar ôl 2011 ac sy’n gweithredu mewn sectorau a nodwyd gan yr Aelod-wladwriaeth.

Clywodd y Grŵp bryderon hefyd gan randdeiliaid y gall y dyddiad cyfeirio o 2014 ar gyfer dosbarthu hawliau arwain at fancio tir. Rydym felly yn credu y dylid parhau i geisio sicrhau gwelliannau i destun y rheoliadau arfaethedig a fyddai’n diogelu yn erbyn hyn.

-               A fyddech yn cefnogi Gwelliannau 50 a 51 ar ehangu’r blynyddoedd y mae’n ofynnol i ffermwr fod wedi defnyddio hawl?

-               A fyddech yn cefnogi’r defnydd o’r gronfa genedlaethol i’r diben a amlinellwyd yng Nghwelliant 59?

-               A ydych yn cefnogi’r farn bod angen rhagor o gamau diogelu yn y testun i leihau’r posibilrwydd o fancio tir?

Taliadau Gwyrdd

Roedd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen bryderon difrifol am y cynigion ar gyfer y taliadau uniongyrchol gwyrdd a nodwyd gan y Comisiwn yn nhestun gwreiddiol y rheoliad drafft.  Felly awgrymodd nifer o welliannau i’r elfen hon. Roedd y rhain yn cynnwys caniatáu i ffermwyr sydd mewn cynlluniau amaeth-amgylchedd a ardystiwyd gan y Comisiwn i gael y taliadau gwyrdd yn awtomatig a rhoi mwy o hyblygrwydd i Aelod-wladwriaethau a Rhanbarthau ddethol gofynion taliadau gwyrdd o ddewis ehangach o opsiynau taliadau gwyrdd.

Mae Gwelliant 69 o’r Adroddiad Drafft yn awgrymu y dylai ffermwyr sydd mewn cynllun amaeth-amgylchedd sydd eisoes yn bodoli ac sy’n cymryd camau sy’n mynd y tu hwnt i’r gofynion taliadau gwyrdd, gael y taliadau gwyrdd yn awtomatig. Mae Gwelliant 72 yn caniatáu i’r Comisiwn fabwysiadu deddfau dirprwyedig i ddiffinio ymhellach yr amodau lle gall ffermwyr organig a’r rheini sydd mewn cynlluniau amaeth-amgylchedd fod yn gymwys ar gyfer taliadau’n awtomatig.

Er bod yr Adroddiad Drafft yn awgrymu nifer o welliannau i’r tri gofyniad taliadau gwyrdd a gynigiwyd gan y Comisiwn ar gylchdroi cnydau, porfeydd parhaol ac ardaloedd â ffocws ecolegol, sy’n gwella’r tri opsiwn hwn, nid yw’n cynnig rhoi’r hyblygrwydd y cred y Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n angenrheidiol i’r Aelod-wladwriaethau osgoi canlyniadau gwrthnysig.  Felly, cred y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei bod yn bwysig ceisio rhagor o welliannau sy’n adlewyrchu’i gasgliadau cychwynnol yn well.

-               A ydych yn cefnogi’r cynnig a nodir yng Ngwelliant 69?

-               A ydych yn cefnogi barn y Grŵp y dylai barhau i wthio am gynnwys dewis ehangach o opsiynau gwyrdd yn y rheoliad terfynol?

Cynllun Ffermwyr Bach

Daeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i’r casgliad y dylai’r Cynllun Ffermwyr Bach a gynigiwyd yn y rheoliad drafft fod yn wirfoddol ac y dylai fod yn destun trawsgydymffurfio.  Felly, mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn croesawu Gwelliannau 18 a 102 yn yr adroddiad drafft a fyddai’n gwneud y Cynllun yn un gwirfoddol. Mae Gwelliant 104, fodd bynnag, yn cynyddu cyfanswm y cyllid y gallai ffermwyr ei gael o dan y Cynllun Ffermwyr Bach o 1000 i 1500 Ewro. Nid yw’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi ffurfio barn eto ar y gwelliant hwn ac felly mae’n awyddus i glywed eich sylwadau chi ar y mater.

-               A fyddech yn cefnogi gwelliant i wneud y Cynllun Ffermwyr Bach yn un gwirfoddol?

-               Beth yw eich barn ar Welliant 104?

Ffermwyr Ifanc

Roedd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gefnogol dros ben o’r cynigion i annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant ond credai na ddylid cyfyngu’r cymorth hwn i bobl o dan 40 oed. Ni chyfeirir at ehangu’r cymorth i newydd-ddyfodiaid dros 40 oed yn yr Adroddiad Drafft ond mae Gwelliannau 86 ac 87 yn argymell y dylai fod yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau ddatblygu meini prawf gwrthrychol ac anwahaniaethol i nodi pwy fydd yn gymwys ar gyfer cyllid o dan 40 oed. Y cyfiawnhad dros y gwelliant hwn a ddarperir yn yr Adroddiad Drafft yw y dylai Aelod-wladwriaethau ei gwneud yn ofynnol i ffermwr ifanc fod wedi datblygu’r hyfforddiant a’r sgiliau perthnasol i sicrhau bod eu busnes yn hyfyw yn yr hirdymor. Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn tueddu i barhau i fynd ar drywydd gwelliant a fyddai’n rhoi cymorth i bob newydd-ddyfodiaid ac mae’n dymuno cael eich barn ar Welliannau 86 ac 87.

-               A ydych yn cefnogi barn y Grŵp y dylid rhoi cymorth i bob newydd-ddyfodiaid ac nid i’r rheini o dan 40 oed yn unig?

-               A ydych yn cefnogi bwriadau Gwelliannau 86 ac 87?

Ffermwr Actif

Tra bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cefnogi’n gryf yr egwyddor y dylid dim ond gwneud taliadau uniongyrchol i ffermwyr actif, roedd yn pryderu y byddai’r cynnig a nodwyd gan y Comisiwn, a fyddai’n diffinio ffermwr actif ar sail incwm amaethyddol, yn rhy gymhleth. Felly, mae’n croesawu Gwelliant 29 sy’n dileu’r gofyniad hwn a Gwelliant 32 a fyddai’n cyflwyno rhestr negyddol o weithgareddau a busnesau fel meysydd chwarae a chwmnïau trafnidiaeth na fyddent yn gymwys i gael taliadau uniongyrchol.

-               A fyddech yn cefnogi’r defnydd o restr negyddol i ddiffinio Ffermwr Actif?

Byddai Gwelliant 31 hefyd yn diwygio’r diffiniad o Ffermwr Actif o dan Erthygl 9 fel na allai personau naturiol neu gyfreithiol nad oeddent ynghlwm â gweithgarwch cynhyrchu amaethyddol yn 2011gael y taliad sengl. Nid yw’r gwelliant yn egluro sut y byddai hyn yn cael ei ddiffinio mewn perthynas â newydd-ddyfodiaid.

-               Beth yw eich barn am y Gwelliant hwn ac a oes gennych unrhyw bryderon am y ffordd y byddai’n berthnasol i newydd-ddyfodiaid?

Hyblygrwydd rhwng Pileri

Clywodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen amrywiaeth o safbwyntiau gan randdeiliaid am allu Aelod-wladwriaethau i drosglwyddo cronfeydd rhwng Pileri. Daeth y Grŵp i’r casgliad y bydd yn bwysig sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn opsiwn gwirfoddol i Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau. Mae’r Adroddiad Drafft yn gwneud nifer o welliannau mewn perthynas â’r mater hwn. Byddai Gwelliant 39 yn caniatáu i amryw o Aelod-wladwriaethau, gan gynnwys y DU, gynyddu’r swm y gallant ei drosglwyddo o Biler 1 i Biler 2 i 10 y cant ychwanegol.  Byddai Gwelliant 40 yn galluogi Aelod-wladwriaethau nad ydynt yn defnyddio cronfeydd Piler 1 i roi cymorth i Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol, drosglwyddo hyd at bump y cant o’r cronfeydd hyn i Biler II a byddai Gwelliant 43 yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau drosglwyddo unrhyw gronfeydd nas dyrannwyd ar gyfer taliadau gwyrdd i fesurau amaeth-amgylchedd-hinsawdd o dan Biler 2. Fodd bynnag, byddai Gwelliant 41 yn golygu na allai Aelod-wladwriaethau drosglwyddo cyfanswm o fwy nag 20 y cant o Biler 1 i Biler 2, wrth drosglwyddo cyfuniad o’r cronfeydd hyn.

-               Beth yw eich barn am y cynnig i ganiatáu i’r DU drosglwyddo 10 y cant ychwanegol o Biler 1 i Biler 2?

-               Beth yw eich barn am y cynigion i ganiatáu i Aelod-wladwriaethau drosglwyddo rhai cronfeydd na ddefnyddiwyd ar gyfer ardaloedd â chyfyngiadau naturiol a thaliadau gwyrdd o dan Biler 1 i Biler 2?


 

 

Rheoliad Drafft ar Ddatblygu Gwledig

Mae’r Adroddiad Drafft a baratowyd gan y rapporteur Mr Capoulas Santos, yn nodi 72 o welliannau arfaethedig i destun gwreiddiol y rheoliad drafft. Yn gyffredinol, roedd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn croesawu rheoliad drafft y Comisiwn ar ddatblygu gwledig ac nid oedd yn awgrymu llawer o welliannau manwl yn ei gasgliadau cychwynnol. Fodd bynnag, mae’r Adroddiad Drafft yn gwneud nifer o welliannau a allai effeithio ar Gymru ac ar y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ac felly mae’n awyddus i glywed barn rhanddeiliaid ar y newidiadau posibl.

Amcanion a Blaenoriaethau Datblygu Gwledig

Byddai Gwelliant 9 o’r Adroddiad Drafft ar y rheoliad datblygu gwledig yn ychwanegu natur gystadleuol coedwigaeth fel amcan a byddai Gwelliant 10 yn ychwanegu natur gystadleuol coedwigaeth fel blaenoriaeth undeb ar gyfer datblygu gwledig.

-                A fyddech yn cefnogi ychwanegu natur gystadleuol coedwigaeth fel amcan a blaenoriaeth ar gyfer cronfeydd datblygu gwledig?

Mesurau Penodol

Mae’r Adroddiad Drafft hefyd yn cynnig gwelliannau i nifer o’r mesurau y gall Aelod-wladwriaethau eu defnyddio yn eu rhaglenni datblygu gwledig. Byddai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn croesawu’n arbennig eich barn am: 

-               Welliannau 24 a 27 a fyddai’n galluogi Aelod-wladwriaethau i wneud taliadau ymddeol i unrhyw ffermwyr sy’n trosglwyddo’u daliad yn barhaol i ffermwr arall os yw’r ffermwr sy’n ymddeol, dros 65 oed ac wedi ffermio am o leiaf ddeng mlynedd; a

-               Gwelliant 28  a fyddai’n caniatáu i Aelod-wladwriaethau ddarparu cronfeydd i weithredu fel gwarant ar gyfer contractau prydlesu tir i ffermwyr ifanc er mwyn hwyluso mynediad at brydlesi hirdymor i ffermwyr ifanc.

Amaeth-amgylchedd-hinsawdd

Mae Gwelliannau 41 a 42 o’r Adroddiad Drafft yn ceisio sicrhau na fyddai unrhyw ariannu dwbl rhwng y pileri pe bai gwelliant yn cael ei wneud i Biler 1 a fyddai’n galluogi ffermwyr sydd mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol sydd eisoes yn bodoli i gael taliadau gwyrdd yn awtomatig. Byddai’r gwelliannau’n ei gwneud yn ofynnol i bob cynllun amaeth-amgylcheddol fynd y tu hwnt i’r gofynion gwyrddu lleiaf. Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gweld y rhain fel gwelliannau rhesymegol o ystyried ei sefyllfa o ran gwyrddu taliadau uniongyrchol ac felly mae’n tueddu i’w cefnogi

-               Beth yw eich barn am y gwelliannau arfaethedig hyn?

Byddai Gwelliant 66 o’r Adroddiad Drafft yn caniatáu ar gyfer cyfraddau cydariannu o 60 y cant ar gyfer holl fesurau amaeth-amgylchedd-hinsawdd a chyfradd cydariannu o 90 y cant yn rhaglenni'r rhanbarthau llai datblygedig. Mae’r Adroddiad Drafft yn nodi bod llawer o Aelod-wladwriaethau’n defnyddio’r cyfraddau cydariannu cynyddol ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol sydd eisoes yn bodoli ac y dylai hyn barhau yn y dyfodol.  Byddai Gwelliant 68 o’r Adroddiad Drafft yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau wario o leiaf 30 y cant o’u cronfeydd datblygu gwledig ar gynlluniau amaeth-amgylchedd-hinsawdd.

-               A fyddech yn cefnogi cynnwys cyfraddau cydariannu cynyddol ar gyfer mesurau hinsawdd amaeth-amgylchedd-hinsawdd?

-               A fyddech yn cefnogi’r gofyniad y dylai Aelod-wladwriaethau wario o leiaf 30 y cant o’u cronfeydd datblygu gwledig ar fesurau amaeth-amgylchedd-hinsawdd?

Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol

Fel y cafodd ei ddrafftio ar hyn o bryd, mae’r rheoliad datblygu gwledig yn Atodiad 2 yn nodi cynigion ar gyfer meini prawf bioffisegol y dylid eu defnyddio i ddiffinio ardaloedd â chyfyngiadau naturiol. Mae Gwelliant 46 o’r Adroddiad Drafft yn awgrymu mai dim ond dangosol y dylai’r meini prawf a restrir yn Atodiad 2 fod ar hyn o bryd ac y dylai’r Comisiwn gyflwyno cynnig deddfwriaethol ar gyfer meini prawf gorfodol i ddiffinio ardaloedd â chyfyngiadau naturiol erbyn 31 Rhagfyr 2015. Mae’r Adroddiad Drafft yn nodi y byddai hyn yn caniatáu mwy o amser i’r Comisiwn gwblhau asesiad effaith llawn ar y meini prawf.

-               Beth yw eich barn am y Gwelliant hwn a awgrymir?


 

Rheoliad Drafft ar ariannu, rheoli a monitro’r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Mae’r Rheoliad Drafft yn nodi’r gofynion trin a rheoli a fydd yn berthnasol i ddosbarthu cronfeydd y PAC gan gynnwys mesurau mewn perthynas â thrawsgydymffurfio. Mae’r  Adroddiad Drafft ar y rheoliad hwn ac a baratowyd gan y rapporteur Mr Giovanni La Via, yn awgrymu 102 o welliannau i’r testun gwreiddiol.

Er na chyflwynodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen welliannau manwl i’r rheoliad hwn roedd yn cefnogi galwadau’r rhanddeiliaid i symleiddio ymhellach y system cosbi a chydymffurfio. 

Byddai Gwelliant 58 yn yr Adroddiad Drafft ar y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau sicrhau bod unrhyw systemau trin neu reoli a sefydlwyd yn  gymesur ac yn seiliedig ar risg. Byddai Gwelliant 62 yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau ganolbwyntio eu gwiriadau yn y fan a’r lle ar ardaloedd lle y mae risgiau neu wallau ar eu huchaf, sicrhau bod gwiriadau’n gymesur â’r symiau o arian sydd ynghlwm ac ystyried canlyniad archwiliadau cynharach.

Byddai Gwelliannau 85 a 94 yn ei gwneud yn ofynnol bod cosbau trawsgydymffurfio dim ond yn cael eu rhoi lle’r oedd yr achos o anghydymffurfio wedi’i briodoli’n glir i’r buddiolwr dan sylw a byddai Gwelliant 86 yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau sefydlu system rhybuddio lle y gallai’r buddiolwyr dan sylw dderbyn llythyr rhybudd cychwynnol a fyddai’n caniatáu iddynt wella’r anghysondeb mewn achosion o anghydymffurfio am y tro cyntaf.

-               Beth yw eich barn am y gwelliannau hyn ?

-               A oes unrhyw welliannau eraill yr hoffech eu gweld?

Adnabod Anifeiliaid yn Electronig

Byddai Gwelliant 87 o’r rheoliad drafft yn atal buddiolwyr rhag cael eu cosbi mewn perthynas â Gofyniad Rheoli Statudol 7 ar adnabod gwartheg a Gofyniad Rheoli Statudol 8 ar adnabod defaid a geifr lle y mae methiant i gydymffurfio yn ganlyniad namau technegol gyda’r system adnabod a chofrestru.

-               A fyddech yn cefnogi gwelliant o’r fath i’r rheoliad drafft?

 

Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a’r Gyfarwyddeb Plaladdwyr

Byddai Erthygl 91 o’r rheoliad drafft a gyflwynwyd gan y Comisiwn yn caniatáu ar gyfer cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb Plaladdwyr a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr i ddod yn ofynion trawsgydymffurfio ar ôl i’r holl Aelod-wladwriaethau fabwysiadu’r Cyfarwyddebau. Byddai Gwelliant 88 ac 89 o’r Gofyniad Drafft yn dileu’r rhan hon o Erthygl 91.

-               Beth yw eich barn am y Gwelliannau hyn?

Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da

Byddai Gwelliant 102 o’r rheoliad drafft yn diwygio Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC) 8 ar gynnal y dirwedd i ddileu’r cyfeiriad a wneir yng nghynigion y Comisiwn at fesurau i osgoi rhywogaethau a phlâu goresgynnol estron. Mae’r adroddiad drafft yn nodi y byddai’r dull amlflwydd a gynlluniwyd yn dda ac sy’n ofynnol i fynd i’r afael â’r rhywogaethau hyn yn ddrud iawn i ffermwyr unigol, er y dylai atal rhywogaethau goresgynnol estron fod yn gymwys ar gyfer cymorth o dan y mesurau datblygu gwledig. 

-               A ydych yn cytuno â’r gwelliant a gynigiwyd i GAEC 8?